Coldplace: Tribute to Coldplay

Coldplace: Tribute to Coldplay

Tribute to Coldplay

Archebwch nawr

Coldplace – Mae teyrnged orau’r byd i fand Coldplay yn berfformiad cyngerdd byw syfrdanol, sy’n dathlu cerddoriaeth un o’r bandiau mwyaf llwyddiannus erioed. 

Y band teyrnged rhagorol hwn yw’r unig un sydd wedi gweithio i Coldplay, a bydd yn eich arwain trwy eich holl hoff ganeuon gan Coldplay o’r 20 mlynedd diwethaf a mwy gan gynnwys Yellow, Paradise ac A Sky full of Stars, hyd at Higher Power a My Universe o’u halbwm diweddaraf, Music of the Spheres. 

Mae’r sioe hon o’r radd flaenaf yn ail-greu’n ffyddlon hudoliaeth teithiau byw Coldplay sydd wedi torri pob record – yn cynnwys goleuadau laser, conffeti, sgrin fideo a’r bandiau arddwrn Xyloband LED sydd wedi dod yn rhan allweddol o gyngherddau Coldplay, ac sy’n sicr yn cynnwys y gynulleidfa yn y sioe. 

“Mae Coldplace yn wych. Diolch am chwifio baner Coldplay” – Phil Harvey (Cyfarwyddwr Creadigol Coldplay) 

 www.coldplace.co.uk 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event