Yn dilyn ei thaith hynod o lwyddiannus yn 2022, mae Bronwen yn ôl â ‘More From The Living Room’. Yn ail-greu hud ei gigs dros y we yn fyw ar y llwyfan, bydd Bronwen yn perfformio detholiad newydd o’i hoff ganeuon ynghyd ag adrodd straeon diddorol. Mae’n argoeli i fod yn noson o adloniant byw na ddylid ei cholli!
Mae’r aml-offerynwraig a’r seren Tik-Tok yn perfformio repertoire hynod o amrywiol sy’n cynnwys detholiad newydd o’i chaneuon gwreiddiol. Yn dod â’i dull unigryw o gyfuno’r Gymraeg â chaneuon poblogaidd, bydd Bronwen yn perfformio ei fersiynau ei hun o ganeuon adnabyddus, yn amrywio o glasuron Cymreig traddodiadol i ganeuon artistiaid cyfoes.
Peidiwch â cholli’r cyfle! Archebwch nawr i fod yn rhan o Daith Bronwen Lewis: More From Living Room Tour!