Mae’r cynhyrchydd sioeau uchel iawn ei glod a’r artist recordio sydd wedi cyrraedd Rhif 1, Steve Steinman, yn cyflwyno ei gynhyrchiad newydd sbon, sy’n cynnwys dros 25 o ganeuon mwyaf llwyddiannus Meat Loaf a Jim Steinman yn y sioe Anything For Love. Nid sioe deyrnged yw hon. Mae Steve yn ganwr a pherfformiad o’r radd flaenaf.
Gyda set lwyfan anhygoel, band byw â deg aelod, wedi’u cyfuno â synnwyr digrifwch a phresenoldeb llwyfan poblogaidd Steve, yr unig air i ddisgrifio’r sioe hon yw rhagorol.
Bydd y sioe yn eich codi o’ch sedd i weiddi am fwy wrth i Steve a’i gast o gantorion a cherddorion anhygoel eich arwain ar daith llawn atgofion yn ôl mewn amser.
Anything For Love – Bat Out Of Hell - Paradise By The Dashboard Light – Took The Words Right Out Of My Mouth - Two Out Of Three Ain’t Bad - Dead Ringer For Love - Total Eclipse Of The Heart a llawer, llawer mwy.