Mae Kaleb Cooper, ffermwr enwog o Chipping Norton ac awdur poblogaidd y Sunday Times, a ddaeth yn enwog yng nghyfres Prime Video, Clarkson’s Farm, wedi penderfynu wynebu ei ofn a mynd ar ei daith theatr gyntaf gyda THE WORLD ACCORDING TO KALEB – KALEB GOES ON TOUR.
Mae Kaleb wedi ennill calonnau gwylwyr o amgylch y byd gyda’i ymgais sy’n aml iawn yn rhwystredig yn ceisio dysgu Jeremy Clarkson ychydig am ffermio, yn ogystal â’i sylwadau doniol am fywyd, y bydysawd a phopeth arall. Mae Kaleb yn ffermwr yn gyntaf, ond bellach mae’n dysgu rhywbeth newydd iddo ei hun ac yn camu allan o Chippy i gynnal sioe llawn hwyl.
Gall edmygwyr Kaleb ddisgwyl safbwyntiau cryf ar nifer o bethau - gan gynnwys defaid (‘stupid’), Jeremy Clarkson (f***ing idiot’), geifr (‘they’re a proper good clear-up animal - they eat everything - no wonder they taste horrible’), Efrog Newydd (‘if it’s like London where there are no tractors, that’s no good’), pobl enwog, a’r rheswm pam mai ffermio ydi’r swydd orau yn y byd, ac yn bennaf, materion teilwrol megis steil gwallt - yn arbennig ei steil ei hun!
Er ei statws fel enw enwog, mae Kaleb dal yr un ffermwr gweithgar gyda’i draed yn sefydlog ar y ddaear. Bydd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd gymryd rhan mewn arferion gwledig eithaf diddorol yn ystod y sioe, yn ogystal ag amlygu rhai o’r nifer o heriau y mae ffermwyr Prydain yn eu hwynebu heddiw ac efallai yn rhannu sut y gallwn i gyd helpu i wneud gwahaniaeth a’u cefnogi.
Gyda hiwmor, mynegiant amserol a sylwadau unigryw, mae Kaleb yn dod i dref yn eich ymyl, i ddweud fel y mae!