Mae Walk Like A Man yn ddathliad arbennig o Frankie Valli & The Four Seasons, sy’n ail-greu ffalseto pwerus ac eiconig y cantorion i’r dim.
Wedi’i gynhyrchu gan seren o’r West End, Mark Halliday, mae Walk Like A Man wedi syfrdanu cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda lleisiau anhygoel, symudiadau slic, personoliaeth heintus a chaneuon diamser.
Mae’r sioe syfrdanol hon yn eich swyno o’r cychwyn cyntaf; mi fyddwch chi wrth eich bodd efo’r holl ganeuon clasurol fel ‘Can’t Take My Eyes Off You’, Walk Like a Man’, ‘Sherry’ – ac mi fydd pawb ar eu traed yn gweiddi hwrê ar y diwedd!