Ymgollwch yn yr ymgyfuniad o roc a rôl, pop a chomedi gyda That'll Be The Day, y sioe theatr sydd wedi rhedeg hiraf yn y DU. Profwch daith hudolus drwy hanes cerddoriaeth o’r 50au i’r 80au, sydd wedi ei llenwi gyda pherfformiadau gwefreiddiol a chaneuon eiconig.
Mae’r sioe fythgofiadwy hon yn cyfuno talent, egni, angerdd a nostalgia ac mi fyddwch chi’n canu, yn chwerthin ac yn dawnsio i ganeuon gorau’r gorffennol. Peidiwch â methu’r dathliad arbennig yma o roc a phop a fydd yn gwneud i chi weiddi “mwy”!