Yn syth o’r West End – y deyrnged orau un i Neil Diamond.
Yn syth o Theatr Adelphi Llundain. . . mae hi’n amser am y noson allan honno yr ydych wedi bod yn breuddwydio amdani!
Yn serennu Gary Ryan, a ymddangosodd ar Stars in Their Eyes!
Bydd y sioe yn mynd â chi’n ôl i’r dechrau. Siwrnai gerddorol yn cynnwys 50 mlynedd o’r caneuon gorau a ysgrifennwyd erioed.
Dewch i ddathlu cerddoriaeth sydd wedi swyno chwe chenhedlaeth wrth i ni ddod â Diamond i chi yn ei gyfanrwydd yn y sioe fyw ryfeddol hon.
Mwynhewch yr holl ganeuon poblogaidd Forever In Blue Jeans, America, Love On The Rocks, Song Sung Blue, Hello Again, Cracklin’ Rosie, I Am. . . I Said, Beautiful Noise ac wrth gwrs, Sweet Caroline.
Dyddiau da!
“The closest thing to the real deal, live”
London Theatre Reviews