Yn y sioe newydd sbon yma, mae Lee yn rhannu ei lwyfan gyda bleiddgi sy’n gomedïwr di-flewyn ar dafod o goedwigoedd du yr isymwybod sy’n casáu dynoliaeth. Mae ‘Man-Wulf’ yn gosod her gomedi ffyrnig i Lee sydd yn ddiwylliannol amherthnasol ac sydd wedi’i wanhau’n gorfforol. Oes modd tawelu’r bwystfil y tu mewn i bob un ohonom gyda bwled arian arddull gwahanol o stand-yp gan Lee sydd wedi derbyn llawer o ganmoliaeth.
Mae Stewart Lee ("The world's greatest living stand-up comedian" The Times), mewn perygl o gael ei adael ar ôl. Mae o’n nesáu at fod yn 60 gyda chyflyrau iechyd llethol, mae ei broffil ar y teledu wedi lleihau, ac mae ei arddull o stand-up a enillodd wobr BAFTA bellach yn ymddangos fel petai wedi hen ddarfod. Ond oes modd i Lee ryddhau ei ‘Man-Wulf’ mewnol i leoli ei hun ochr yn ochr â mawrion y byd comedi megis Dave Chappelle, Ricky Gervais a Jordan Peterson ar flaen y gad o fod yn ddoniol a phoblogaidd?