Yn dathlu 10 mlynedd anhygoel o berfformio mae Seven Drunken Nights – The Story of The Dubliners yn ôl yn 2026.
Gyda chast o gerddorion Gwyddelig, mae’r sioe yn llawn o ganeuon clasurol fel Whiskey in the Jar, The Irish Rover a Rocky Road to Dublin – sy’n siŵr o siglo’ch traed wrth iddyn nhw ddod â llonder y band gwerin yn ôl yn fyw ar y llwyfan.
Mae’r cynhyrchiad llawen hwn yn dathlu meistrolaeth gerddorol The Dubliners, hoff feibion Iwerddon, ar y cyd â thafarn chwedlonol O’Donoghue’s.
Gyda pherfformiadau sy’n mynd â’ch anadl a naws Gwyddelig go iawn, mae’r sioe yn dathlu hanner canrif o The Story of The Dubliners mewn noson arbennig o gerddoriaeth wych i gofio am fand a ddylanwadodd ar genedlaethau o gerddoriaeth Wyddelig.
Peidiwch â cholli’r cyfle i weld cynhyrchiad heb ei ail sy’n dod â degawdau o nosweithiau bythgofiadwy i theatrau ar hyd a lled y wlad. Mae Seven Drunken Nights yn sioe Wyddelig anhygoel sy’n gweld cynulleidfaoedd ar draws y byd yn dychwelyd dro ar ôl tro.