The Searchers

The Searchers

Diolch Taith

Archebwch Nawr

Pan wnaeth The Searchers gyhoeddi eu bod yn rhoi’r gorau i deithio yn 2018, roeddent yn gadael llu o selogion a chefnogwyr brwd ar ôl oedd wedi’u syfrdanu a’u tristau na fyddent yn gallu mwynhau mwy o’r cyngherddau a’r caneuon oedd wedi dod yn rhan mor bwysig o’u bywydau dros chwe degawd.

Rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi bod The Searchers wedi penderfynu dychwelyd ar un daith arall yng ngwanwyn 2023 fel ffordd addas o ddangos eu gwerthfawrogiad i’r holl rai sydd wedi sicrhau bod eu gyrfa’n un arbennig a llwyddiannus.

Mae’r nosweithiau llawn dop, sydd wedi’u cynllunio mor broffesiynol ac yn cynnwys y ffefrynnau o’r siartiau a mwy, wedi’u gwneud yn atyniad mawr mewn theatrau ar hyd a lled y DU. ‘Sweets For My Sweet’, ‘Needles & Pins’, ‘When You Walk In The Room’, ‘Goodbye My Love’, ‘Don`t Throw Your Love Away’, ‘Sugar & Spice’, ‘What Have They Done To The Rain’. Llond llaw yn unig o’u tair cân ar ddeg a gyrhaeddodd siartiau Prydain. Caneuon sy’n draciau sain i’n bywydau ni. Peidiwch â cholli’r cyfle olaf i weld band sydd wirioneddol yn un o’r goreuon. Mae’r daith, ar gais The Searchers eu hunain, wedi cael teitl addas iawn. ‘THANK YOU’.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event