Brendan, James, Pasha, Vincent and Ian.
I gyd yn enwau adnabyddus, i gyd yn ffefrynnau Strictly, i gyd yn dywysogion y llawr dawnsio, ac i gyd yn ail-uno unwaith eto yn "Return of The Legends"!
Mae’r bechgyn yn dychwelyd, yn dilyn llwyddiant anhygoel taith y llynedd ‘Legends of The Dancefloor’ a werthodd pob tocyn ac a ddisgrifiwyd gan Brif Feirniad Strictly, Shirley Ballas, fel ‘un o’r sioeau mwyaf doniol a welais erioed yn fy mywyd. Noson allan wych!’
Mae Brendan Cole, James Jordan, Pasha Kovalev, Vincent Simone ac Ian Waite yn ôl gyda’u cast cefnogi i greu noson arall o ddawnsio ysblennydd, cyfeillgarwch doniol, cerddoriaeth wych a llond gwlad o chwerthin! Maen nhw i gyd wedi arwain eu teithiau unigol eu hunain ond gyda’i gilydd maen nhw’n creu’r hyn a ddisgrifiodd un newyddiadurwr fel “sioe dim llai nag ysblennydd.”
Mwynhaodd y pump eu haduniad y llynedd yn fawr ac maent yn teimlo bod ganddyn nhw straeon ar ôl i'w hadrodd, cyfrinachau i'w datgelu a mwy o ddawnsiau i'w perfformio.
Gyda pherfformiadau dawns Lladin, neuadd ddawns, tango, rymba a llawer mwy…mae ein harwyr yn ôl gyda threfniannau newydd a mwy o straeon doniol am Strictly a’u bywydau.
Dyma’r byd adloniant ar ei orau!
Os wnaethoch chi fwynhau sioe ‘Legends of the Dancefloor’ a’ch bod yn dymuno gweld mwy, prynwch eich tocynnau nawr. Os na weloch chi’r sioe y llynedd, peidiwch ag oedi… a chofiwch wisgo’ch esgidiau dawnsio!