Mae Peppa a’i ffrindiau yn ôl yn eu sioe lwyfan fyw newydd sbon!
Gan fod un bach newydd ar y ffordd, mae’r teulu yn brysur yn paratoi. Mae gwaith adeiladu ac addurno i’w wneud ac mae angen eich help chi ar Peppa Pig, Mummy Pig, Daddy Pig a George i gael popeth yn barod cyn i Evie fach gyrraedd! Mae cymaint i’w wneud – a fyddan nhw’n gallu gorffen y cyfan mewn pryd?
Mae Peppa Pig’s Big Family Show yn llawn cerddoriaeth, antur a phethau annisgwyl i’ch rhai bach a dyma’r cyflwyniad perffaith i’r theatr.
Ers dros 15 mlynedd, mae cynulleidfaoedd wedi bod wrth eu boddau’n gweld Peppa a'i ffrindiau'n fyw ar y llwyfan mewn saith taith boblogaidd tu hwnt, ac ymunodd dros 2.5 miliwn o bobl yn yr hwyl yn y DU yn unig. Mae Peppa Pig’s Big Family Show wedi’i chynhyrchu unwaith eto gan y tîm theatr plant blaenllaw, Fierylight. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo a'i addasu ar y cyd gan Richard Lewis, sydd wedi cyfarwyddo pob un o sioeau blaenorol Peppa Live.
Dywedodd Martin Ronan, Cynhyrchydd Gweithredol yn Fierylight, “Rydyn ni’n falch iawn o ddod â Peppa a’i ffrindiau yn ôl i’r llwyfan ar gyfer sioe newydd sbon, i rannu’r hud, y chwerthin, a’r pyllau mwdlyd gyda chenhedlaeth newydd sbon o deuluoedd… gydag ychwanegiad newydd i’r teulu hefyd!”
Ymunwch â Peppa a’i ffrindiau ar eu hantur newydd ddiweddaraf ar gyfer plant bach oed cyn-ysgol. Diwrnod allan perffaith i’r teulu.