At sylw pawb sy’n hoffi comedi ledled y byd!
Mae Paul Smith ar daith eto gyda’i sioe newydd ‘HAPPY’ a dyma ei sioe fwyaf a mwyaf beiddgar eto.
Yn dilyn cyfres o sioeau lle gwerthwyd pob tocyn a llwyddiant feiral ledled y byd, mae sioe ‘HAPPY’ gyda gwaith torf nodweddiadol Paul, ei ffraethineb chwim a’i straeon doniol dros ben, yn dyrchafu ei gomedi i lefel gwbl newydd. Dyma gomedi stand-yp ar ei orau: cyflym, di-ofn, a thu hwnt o ddoniol.
Gan ryngweithio’n bryfoclyd â’r gynulleidfa ac adrodd straeon o’i fywyd go iawn, mae ‘HAPPY’ yn sioe sy’n ymwneud â chanfod pleser ymysg yr anhrefn, llawenydd mewn bywyd bob dydd, a chomedi ym mhopeth posib. Fe fyddwch yn chwerthin lond eich boliau o’r dechrau i’r diwedd.
Hon yw taith fwyaf Paul Smith, yn teithio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ewrop, Gogledd America, Awstralia a Seland Newydd a bydd y tocynnau’n gwerthu’n gyflym.
Os ydych chi’n hoffi comedi cignoeth, real ac afreolus o ddigrif….
‘HAPPY’ yn bendant yw’r sioe i chi.