Phil McIntyre Live Ltd yn cyflwyno:
Susan Calman: Tall Tales
Nid yw Susan Calman wedi bod ar daith ers deg mlynedd, ond mae hi’n ôl gyda sioe newydd sbon. Mae Susan ddegawd yn hŷn, ond nid yn ddoethach o reidrwydd, ac mae hi wedi canfod ei hun mewn sefyllfaoedd annhebygol dros y blynyddoedd. Sioe am fynd ar fordeithiau, gyrru tanciau, cathod a heneiddio yw Tall Tales. Efallai eich bod wedi’i gweld hi ar y teledu neu wedi’i chlywed hi ar y radio, ond y ffordd orau i’w gweld hi yw yn fyw ar lwyfan. Fyddwch chi ddim yn credu pa mor fyr ydi hi mewn gwirionedd. Paratowch am noson o straeon anghredadwy, chwerthin a dawnsio, mae’n siŵr.
Fel a welwyd ar Grand Day Out, Cruising with Susan Calman, QI, House of Games ac (amser maith yn ôl) Strictly Come Dancing.