Oh What a Night

Oh What a Night

Archebwch Nawr

Bydd OH WHAT A NIGHT! yn mynd â chi’n ôl mewn amser ar daith gerddorol drwy yrfa anhygoel Frankie Valli & The Four Seasons.

Bu llais unigryw Valli yn dominyddu’r tonfeddi am ddau ddegawd a mwy, gyda chlasuron fel Sherry, Let’s Hang On, Big Girls Don’t Cry, Can’t Take My Eyes Off You, My Eyes Adored You, December 63 (Oh What A Night), Bye Bye Baby, Who Loves You a llawer iawn mwy. Drwy werthu dros 100 miliwn o recordiau’n fyd-eang, llwyddodd Frankie Valli & The Four Seasons i sicrhau eu lle yn Oriel Anfarwolion y Byd Roc a Rol yn 1990.

Mae OH WHAT A NIGHT! yn cyfuno personoliaethau heintus, lleisiau anhygoel, harmonïau celfydd a symudiadau dawnsio hyd yn oed mwy celfydd i roi sioe llawn egni a nostalgia a fydd bob amser yn golygu bod y gynulleidfa’n awchu am fwy. Peidiwch â cholli’r dathliad mwyaf o un o fandiau Roc a Rol gorau’r byd!

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event