Deuluoedd ar draws y DU, byddwch yn barod am y profiad theatr dinosoriaid gorau erioed! Bydd ceidwaid, peryglon ac Ankylosaurus bychan ar goll yn y goedwig ac angen help cyn i’r Gwyddonydd Drwg ei chipio ar gyfer arbrofion yn ei labordy.
Bydd y cyrch achub gwyllt hwn yn tanio dychymyg plant a rhieni fel ei gilydd ac yn llawn cyffro a dinosoriaid amrywiol. Bydd dinosoriaid enfawr o’r radd flaenaf yn dod â’r holl beth yn fyw gyda’u perfformiad hollol arbennig sy’n cynnwys Freya, y Felociraptor, Dylan y Dilophosaurus, Angie yr Ankylosaurus, Scar y Spinosaurus a Bruce y T-Rex mawreddog.
Mae Dino Tales - Jurassic Rescue yn cyflwyno cyrch achub llawn antur a chyffro i theatr yn eich ardal chi gyda gweithgareddau rhyngweithiol a rhai o’r dinosoriaid mwyaf a welwyd erioed ar lwyfan. Argymhellir y sioe antur hwyliog hon i blant 4+ oed ac mae’n argoeli i fod yn un o’r sioeau theatr i blant gorau yn 2025.
Social Media: @dinotalesshow Website: www.dinotales.co.uk Trailer: https://youtu.be/az4FBbVvvR8
Facebook: @dinotalesshow
Instagram: @dinotalesshow