James Bond Concert Spectacular

James Bond Concert Spectacular

Archebwch Nawr

James Bond Concert Spectacular gan Q The Music yw’r deyrnged fwyaf clodfawr a’r un orau yn y byd i gerddoriaeth James Bond. 

Maen nhw’n dathlu dros 20 mlynedd o gynnal y cyngerdd James Bond gwreiddiol ac arloesol cyntaf, ac maen nhw’n adnabyddus am eu perfformiadau emosiynol cyffrous a llawn adrenalin, ac am eu dawn gerddorol anhygoel. Yn wir, mae ffans ledled y byd yn ystyried y perfformiadau hyn o’r caneuon fel y rhai gorau ers y rhai gwreiddiol.

Nid caneuon thema yn unig y mae’r sioe yn canolbwyntio arnynt, mae hi hefyd yn talu teyrnged i'r canon cyflawn sy'n cynnwys y gerddoriaeth yn ystod helfâu, cerddoriaeth gefndirol a chyfresi o bob rhan o'r gyfres. 

Mae canmoliaeth uchel wedi dod gan rai o gan sêr hynod ddylanwadol sy'n gysylltiedig â James Bond gan gynnwys:

David Arnold sydd wedi cyfansoddi ar gyfer James Bond bum gwaith: “Maen nhw’n gwneud gwaith rhyfeddol”

Actor James Bond blaenorol, George Lazenby: “Byddai John Barry yn falch iawn”

Swyddfa Syr Roger Moore (yn dilyn ei Gofeb swyddogol yn Pinewood Studios): “Gwnaethon nhw helpu i wneud diwrnod gwych yn ddiwrnod eithriadol”

Steven Saltzman (mab y cynhyrchydd ac un o sylfaenwyr James Bond, Harry Saltzman): “Byddai Dad yn falch iawn”

Roedd hyd yn oed papur newydd cenedlaethol The Times yn canmol eu perfformiad gan roi adolygiad 4 seren ar gyfer eu perfformiad cyntaf yn y West End: “Mae’n anodd dychmygu’r gerddoriaeth hon yn cael ei pherfformio’n well. Hollol hyfryd.” 

Maen nhw’n cael eu cysylltu â digwyddiadau James Bond gorau’r byd ac yn 2019 gwnaethon nhw berfformio mewn digwyddiad gyda George Lazenby: digwyddiad hanner canmlwyddiant ‘On Her Majesty’s Secret Service’, a gynhaliwyd yn Piz Gloria yn Alpau’r Swistir. Yn 2017 cawson nhw’r anrhydedd o ddarparu’r gerddoriaeth yn nigwyddiad coffa swyddogol Syr Roger Moore yn Pinewood Studios. Maen nhw wedi ymddangos yn West End Llundain sawl gwaith ac wedi gwerthu pob tocyn i’w sioeau mewn sawl un o'r lleoliadau mwyaf nodedig a chael cryn glod am eu perfformiad.

Mae'r sioe yn cynnwys holl ganeuon James Bond fel Goldfinger, Diamonds Are Forever, Live and Let Die a Nobody Does It Better - wedi'u perfformio gan gerddorion o gerddorfeydd, sesiynau a sioeau blaenllaw'r DU. Bydd Caroline Bliss, a chwaraeodd ran Moneypenny yn The Living Daylights a Licence To Kill, yn eich tywys chi drwy'r cyngerdd fel arweinydd, gan rannu ambell i stori am ei hamser yn gweithio ar y gyfres boblogaidd hon.

Mae canu syfrdanol, arweinydd llawn gwybodaeth, a nifer o ganeuon eiconig yn cael eu perfformio ar lefel heb ei hail o ran manylder yn rhan o’r sioe a gellir gwarantu noson o'r safon uchaf. Dyma’r unig gyngerdd James Bond sydd wedi’i greu gan ffans James Bond brwd, ar gyfer ffans James Bond, gan bobl sy'n deall y gerddoriaeth yn well nag unrhyw un arall: ni fyddwch chi eisiau ei golli.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event