YN SYTH O WEST END LLUNDAIN
Noson o chwerthin, cabaret, dirgelwch a hudoliaeth!
Dewch bawb ynghyd… am noson anhygoel o adloniant disglair - mae sioe fwrlésg mwyaf hirsefydlog y DU yn ôl ac yn teithio ar hyd y wlad. Ac mae’n fwy nag erioed.
Ymunwch â ni am noson allan hen ffasiwn wrth i ni gyflwyno’r sioe amrywiaeth orau erioed, gan gyfuno cabaret steilus, comedi, cerddoriaeth, syrcas a bwrlésg i ddeffro pob synnwyr.
Bydd diddanwyr o’r radd flaenaf a sêr y llwyfan a’r sgrin yn perfformio - felly paratowch ar gyfer strafagansa o ddisgleirdeb a swyn! Disgwyliwch hwyl, plu a gwisgoedd hyfryd wrth i ni ddewis o’r detholiad gorau o artistiaid arbenigol, sêr cabaret a syrcas, comediwyr a sioeferched siampaen! Dyma’r noson berffaith i bawb.
Mae An Evening of Burlesque yn llawn ysblander artistig sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ers degawdau. Mae’r sioe amrywiaeth syfrdanol hon yn dod â llu o sêr hardd at ei gilydd ar gyfer sioe heb ei hail yn y 21ain Ganrif! Dylech ddisgwyl yr annisgwyl a bydd digon o ddisgleirdeb a swyn! Mae’n amser coctêls a chabaret!
An Evening of Burlesque - rydym ni’n aros amdanoch chi! Tocynnau ar werth rŵan!
Gallai’r cynnwys newid. Cynghorir i unigolion fod dros 18 oed