Dewch yn llu i ddathlu pen-blwydd arbennig Ysgol y Creuddyn yn 40 oed yng nghwmni disgyblion a chyn-ddisgyblion dawnus yr ysgol. O ganu i ddawsnio, ac o actio i gonsurio – bydd gwledd yn eich disgwyl a rhywbeth yn sicr at ddant pawb!
Nia Parry a Liam Evans yn cyflwyno Sioned Gwen Davies, Elgan Llŷr Thomas, Dylan Cernyw, Ryan Vaughan Davies, John Ieuan Jones, Sara Davies, Owain, Gethin Davies, Hannah Elin, Gwion Aled Williams, Dean Raymond ac eraill.