Mae Max yn ôl! Ar ôl galw mawr mae Max Boyce yn dychwelyd i’r llwyfan.
Mae Max Boyce wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ers dros 40 o flynyddoedd. Gyda’i allu i ddarlunio mewn gair a chân, mae Max wedi teithio rhai o neuaddau cyngerdd mwya’r byd, yn cynnwys Neuadd Frenhinol Albert a Thŷ Opera Sydney, ac mae hyd yn oed wedi cynnal ei raglen deledu ei hun ar amser brig. Mae seren y llwyfan a’r sgrin wedi dod yn arwr yn ei oes ei hun.
Drwy ei albymau a’i recordio byw, mae grŵp newydd yn darganfod doniau rhagorol y meistr geiriau carismataidd ac wedi cymryd ato. Yn wir, mae Max Boyce yn arwr gwerin cyfoes.
Mae perfformiadau byw Max yn parhau i syfrdanu cynulleidfaoedd o bob oedran ac mae cymeradwyaeth sefyll pob tyrfa yn dweud y cyfan. Peidiwch â cholli’r profiad unigryw yma o weld Max Boyce mewn cyngerdd byw a chael dweud “Roeddwn i yno!”