Mae Gigs y Gaeaf yn cyflwyno Sweet Baboo a Clementine March

Mae Gigs y Gaeaf yn cyflwyno Sweet Baboo a Clementine March

Archebwch Nawr

Mae gŵyl gerddoriaeth newydd  sbon Conwy wedi cyrraedd!

Bydd Gigs y Gaeaf yn llenwi llefydd ar draws y sir, yn rhoi’r sbotolau ar dalent gerddorol o Gymru a thu hwnt.

Bydd y digwyddiadau am ddim ac am bris gostyngol gyda chyfle i roi / talu fel y dymunwch.

Sweet Baboo yw enw perfformio’r cyfansoddwr a’r cerddor o Ogledd Cymru, Stephen Black. Mae ei yrfa wedi rhychwantu dros 2 ddegawd ac mae wedi rhyddhau 6 albwm hyd yma, a chael canmoliaeth arbennig. Ar hyn o bryd mae’n rhoi’r cyffyrddiadau olaf i record newydd, ei record gyntaf ers dros 5 mlynedd, a fydd yn cael ei rhyddhau ddechrau 2023. Dydy Sweet Baboo ddim wedi perfformio’n fyw ers Gŵyl End of The Road 2018 ond dydy hynny ddim yn golygu nad yw Black wedi bod yn brysur. Yn fwyaf diweddar ym mis Ionawr 2022, rhyddhaodd ei ail albwm, a mynd ar daith, fel Group Listening o’r enw ‘Clarinet & Piano: Selected Works Vol 2.' gyda’r pianydd Paul Jones.

Mae’r cyfansoddwr caneuon a’r chwaraewr offerynnau amrywiol o Brydain, a anwyd yn Ffrainc, Clémentine March, wedi rhyddhau dau albwm hyd yma ar Lost Map Records Le Continent (2020) a Songs of Resilience (2021), y ddau’n adlewyrchu ei gwreiddiau amlddiwylliannol (plentyndod yn Ffrainc, dysgu cerddoriaeth ym Mrasil) a’i phrif ddiddordebau, colled, cariad a gorfoledd. Mae ei cherddoriaeth yn fras yn ailuno alawon Cetano Veloso a dilyniant cordiau Béla Bartók, Pavement ac alawon ‘cheesy’ o set deledu ddiwedd yr 20fed ganrif. Ar hyn o bryd, mae Clémentine yn paratoi ei thrydydd albwm, a fydd yn cael ei ryddhau yn 2023.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event