Un o’r operâu mwyaf lliwgar ac ecsotig
Cerddoriaeth gan G Puccini. Bydd yr opera yn cael ei chanu yn Eidaleg gydag isdeitlau Saesneg.
Wedi’i pherfformio gan Dnipro Opera o Wcráin.
Yn cynnwys actorion clodfawr a Cherddorfa fyw o dros 30 o gerddorion.
Rydym yn falch o ddod â theatr Dnipro Opera yn ôl o Wcráin ar gyfer ein Tymor Opera nesaf. Mae gan yr opera a theatr fale hon dreftadaeth faith o gynyrchiadau opera o’r radd flaenaf, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at ddod ag ef yn ôl i’r DU.
Ni all unrhyw opera gystadlu â thrasiedi a thristwch Madama Butterfly gan Puccini.
Wedi’i seilio yn Japan ar droad y ganrif ddiwethaf, dyma stori garwriaeth drychinebus rhwng swyddog o lynges yr Unol Daleithiau a’i wraig ifanc o Japan, a thrasiedi ei hunanaberth hi ar ôl iddi wrthod gwrando ar ei theulu.
Er ei bod yn anfeidrol drist ac yn drasiedi, hanes Madama Butterfly oedd hoff opera Puccini – rhoddodd ei lwyddiannau mawr ym myd theatr unawdau mwyaf anhygoel a thlws i’r byd hefyd - One Fine Day a Love Duet, yn ogystal â’r Humming Chorus sydd wedi bod yn boblogaidd ymysg y rhai sy’n mynd i operâu am dros ganrif.
Mae’r hanes teimladwy hwn am gariad diniwed yn cael ei chwalu rhwng dau ddiwylliant hollol wahanol yn atseinio cyn gryfed ag erioed yn y byd sydd ohoni.
“Always top-quality productions from this producer”. Stage Talk Magazine