Level 42

AEG presents

Level 42

Archebwch nawr

Mae Level 42 yn ôl ar y lôn gyda thaith 2022, ‘Lessons In Live’.

Mae’r daith ‘Lessons In Live’ yn dilyn y daith ‘From Eternity To Here’, a oedd yn dathlu pumed degawd y band. Bu’r daith honno’n llwyddiannus iawn, er ei bod wedi ei gohirio oherwydd Covid. Yn ôl y basydd a’r prif ganwr Mark King, “Er gwaethaf yr holl broblemau amlwg oherwydd Covid, roedd y set olaf o ddyddiadau’n gymaint o hwyl fel na allem ddisgwyl i gael trefnu mwy o sioeau. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael gweld ein cefnogwyr eto”. Mae Mark King yn gerddor sydd wedi creu ei sŵn a’i arddull unigryw ei hun, ac mae galw mawr amdano, gan ei gefnogwyr yn ogystal â chantorion eraill – yr oedd yn westai arbennig ar record Taylor Hawkins o’r Foo Fighters.

Mae Level 42 yn fand sydd â dim byd i’w brofi, sydd â’u bryd ar barhau i fod ar y brig. Hyd yn hyn, mae’r band a Mark wedi rhyddhau 14 albwm stiwdio, 7 albwm byw, yr EP ‘Sirens’, a 6 albwm dethol; wedi cael 18 sengl yn y 40 uchaf, gan gynnwys ‘Lessons in Love’, ‘Something About You’, ‘Leaving Me Now’, ‘Running in the Family’, a ‘Hot Water’; wedi gwerthu’r holl docynnau ar gyfer eu sioe yn Arena Wembley am 21 noson; ac wedi gwerthu mwy na 30 miliwn albwm ledled y byd. Yn fyr, hwy yw un o’r bandiau Prydeinig mwyaf llwyddiannus erioed, ac mae’n eglur eu bod yn parhau i osod y safon ar gyfer Jazz Ffwnc Prydeinig.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event