Katherine Jenkins – Taith i Ddathlu 25 Mlynedd (ac artistiaid cefnogi)
Mae artist clasurol sydd wedi gwerthu fwyaf y ganrif hon, Katherine Jenkins OBE, wedi cyhoeddi taith gyffrous y DU ac Iwerddon gyda 18 dyddiad ar gyfer 2026, gan ddathlu 25 mlynedd anhygoel mewn cerddoriaeth.
Gan nodi ei thaith gyntaf mewn pum mlynedd, bydd y Daith i Ddathlu 25 Mlynedd yn cynnwys caneuon mwyaf poblogaidd Katherine, gan gynnwys “Time To Say Goodbye”, “Jealous of the Angels”, “I Will Always Love You”, a llawer mwy o ffefrynnau’r gynulleidfa.
Ymunwch â Katherine Jenkins am ddathliad cofiadwy o’i gyrfa nodedig, llais anhygoel a 25 mlynedd o hud cerddorol.
Wrth siarad am bwysigrwydd dathlu 25 mlynedd, dywedodd Katherine:
“Mae cyrraedd pum mlynedd ar hugain mewn cerddoriaeth yn hynod o emosiynol, ond mae’r daith hon yn ddathliad i’r cefnogwyr sydd wedi bod yno o’r dechrau cyntaf. Mae mynd ar draws y DU ac Iwerddon am ddeunaw o sioeau arbennig yn teimlo mwy fel aduniad gyda hen ffrindiau yn hytrach na dathliad o fy ngyrfa, ac rwy’n edrych ymlaen at gael sefyll ar y llwyfan, ac edrych ar y wynebau cyfarwydd a’i rannu i gyd eto.”