Chwilio Venue Cymraeg DDEV

Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy

Credwn ym mhŵer y celfyddydau i newid bywydau

Mae Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy yn gweithio ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac yn hyrwyddo, ategu a gwella addysg a gwerthfawrogiad y cyhoedd o’r celfyddydau drwy annog a threfnu gweithgareddau diwylliannol, fel gweithdai addysgiadol a phrosiectau estyn allan. Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 2013 ac mae wedi cyfrannu at amrywiaeth eang o brosiectau celfyddydol ers hynny.

Rydym yn cefnogi a chynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys prosiect blaenllaw Creu, ar gyfer pobl ifanc sy’n profi anawsterau iechyd meddwl a grwpiau creadigol, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc roi cynnig ar ystod eang o arferion artistig, o’r gair llafar i gelf graffiti a dawnsio fertigol.

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn gweithio’n agos â sefydliadau partner sy’n cefnogi digwyddiadau celfyddydol ar draws y sir, o ddigwyddiad Cymerwch Ran yn Venue Cymru, sy’n denu 10,000 o bobl dros un penwythnos anhygoel i ddigwyddiadau RSPB Conwy, sy’n defnyddio’r celfyddydau i hyrwyddo gwybodaeth ynghylch natur.

Take p ART 2026 8 NEW VC Website Images 1 Take p ART 2026 14

Over the last 20 years I’ve been lucky enough to do my maths/author talks in festivals all over the UK including Hay, Edinburgh, Bath, Cardiff, Borders, Cheltenham and over in Dublin. They’re all good, but none were better than yours!

Kjartan Poskitt