Telerau ac Amodau Aelodaeth Premier
Aelodaeth Premier ac Aelodaeth Premier PLUS: TELERAU AC AMODAU
Mae'r Telerau ac Amodau hyn ("Telerau") yn llywodraethu'r defnydd o'r Rhaglen Aelodaeth Breifat ("Aelodaeth") a gynigir gan Venue Cymru a Theatr Colwyn ("Theatr", "ni", "ein") a chyfranogiad ynddi. Drwy ymuno â'r Aelodaeth, rydych chi ("Aelod", "chi") yn cytuno i gydymffurfio â'r Telerau hyn.
Mae Venue Cymru a Theatr Colwyn yn cadw'r hawl i dderbyn neu wrthod unrhyw gais yn ôl ei ddisgresiwn llwyr.
Mae manteision yr Aelodaeth yn cynnwys:
- Aelodaeth Premier: £35
- Archebu â blaenoriaeth (lle mae hynny ar gael)
- Hysbysiadau e-bost / rhybudd ymlaen llaw ynghylch pryd y bydd tocynnau ar werth (lle mae hynny ar gael)
- Disgownt o 10% yn Y Review Restaurant*
*efallai na fydd y disgownt hwn yn berthnasol i ddigwyddiadau preifat neu arbennig sy'n cael eu cynnal yn y bwyty
Aelodaeth Premier PLUS: £65
- Cynnig 'dau am bris un' ar berfformiadau noson agoriadol dethol ar sioeau sy'n rhedeg am wythnos.
(Uchafswm o 4 tocyn, ond gall fod yn gyfyngedig i 2 yn dibynnu ar y sioe/argaeledd; gall fod terfyn ar gyfer rhai sioeau a dyfernir y cynnig ar sail y cyntaf i gyrraedd) - Hyd at 25% o ostyngiad ar hyd at 2 docyn, ar sioeau dethol
- Baucher ar gyfer 2 ddiod am ddim y flwyddyn
(hyd at werth £7 y ddiod) - Gostyngiad o 10% ar sioeau dethol (ar gyfer hyd at 2 docyn)
- Archebu â blaenoriaeth (lle bo hynny'n bosibl)
- Hysbysiadau e-bost / gwybodaeth ymlaen llaw am ddechrau gwerthu tocynnau (lle bo hynny'n bosibl)
- 10% o ostyngiad yn Y Review Restaurant
*efallai na fydd y gostyngiad hwn yn berthnasol i ddigwyddiadau preifat neu arbennig yn y bwyty - 10% yn Catlin’s Café
- 10% o ostyngiad yn y Ciosg ac yn bariau'r 'Circle' a'r cyntedd
Bydd gostyngiad o 40% ar aelodaethau Premier i fyfyrwyr (£21 a £39)
Ffioedd ac Aelodaeth
Y ffi aelodaeth yw £35 a £65 y flwyddyn, i'w talu ymlaen llaw.
Gall y ffi aelodaeth newid; caiff ei hadolygu ar 1 Ebrill 2026, ac yn flynyddol ar y dyddiad hwnnw.
Mae'r aelodaeth yn ddilys am 12 mis o ddyddiad y pryniant, oni nodir yn wahanol.
Ni ellir ad-dalu'r ffioedd, ac eithrio pan fo'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol neu os bydd y Theatr yn canslo'r rhaglen aelodaeth.
Rydym yn cynnig cyfnod 'oeri' o 14 diwrnod; fodd bynnag, os byddwch yn canslo'r aelodaeth, bydd angen talu'r pris llawn am unrhyw docynnau a brynwyd gan ddefnyddio'r gostyngiad o'r aelodaeth Premier PLUS er mwyn iddynt barhau i fod yn ddilys. Bydd unrhyw docynnau a brynwyd fel rhan o archeb flaenoriaeth hefyd yn cael eu canslo o fewn y cyfnod 14 diwrnod, ac ni fydd hawl i'r seddi os cânt eu hailbrynu.
Adnewyddu
Nid yw'r aelodaeth yn cael ei hadnewyddu'n awtomatig oni nodir yn wahanol.
Gellir anfon hysbysiadau adnewyddu cyn i'r aelodaeth ddod i ben. Mae'r Theatr yn cadw'r hawl i newid y ffi adnewyddu neu'r telerau.
Trosglwyddadwyedd
Nid yw aelodaethau yn drosglwyddadwy ac fe'u cyhoeddir i unigolyn unigol.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio'r cerdyn aelodaeth neu'r cod QR (gan gynnwys y cerdyn neu'r cod QR sydd wedi'i storio yn waled Google neu Apple). Wrth eu defnyddio yn y bwyty, y ciosg neu'r bariau i gael gostyngiad, rhaid i'r person a brynodd yr aelodaeth – a'r unigolyn a enwir ar y cerdyn – fod yn bresennol i'w cyflwyno. Dylai aelodau ddisgwyl i staff y theatr gynnal gwiriadau adnabod ar hap lle y bernir bod hynny'n angenrheidiol. Gall deiliad y cerdyn wneud pryniannau gyda'r gostyngiad ar ran aelodau eraill o'u grŵp (hyd at 4 o bobl).
Gall unrhyw drosglwyddiad neu ddefnydd heb awdurdodiad arwain at derfynu'r aelodaeth ar unwaith.
Sylwch: Efallai y byddwch yn destun gwiriadau ar hap wrth gyrraedd y theatr, er mwyn sicrhau bod deiliad yr aelodaeth yn bresennol.
Preifatrwydd a Chyfathrebu
Drwy ddod yn Aelod, rydych yn cytuno i dderbyn cyfathrebiadau ynghylch eich Aelodaeth a digwyddiadau'r theatr.
Bydd eich data personol yn cael ei drin yn unol â pholisi preifatrwydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Cyfyngu ar Atebolrwydd
I'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith:
Nid yw'r Theatr yn atebol am golledion sy'n deillio o newidiadau i ddigwyddiadau, perfformiadau neu fanteision.
Nid yw'r Aelodaeth yn gwarantu bod sioeau neu seddi penodol ar gael.
Cysylltu â Ni
Ar gyfer ymholiadau ynghylch eich Aelodaeth:
Venue Cymru, The Promenade, Llandudno, LL30 1BB
E-bost: memberships@venuecymru.co.uk
Ffôn: 01492 872001