James Martin Live

James Martin Live

Archebwch nawr

Mae’r cogydd enwog James Martin yn dychwelyd ar gyfer ei daith fyw newydd sbon ar gyfer 2025.

Yn dilyn teithiau a werthodd allan, bydd James Martin Live yn gweld y cogydd Teledu a’r awdur poblogaidd yn ymweld â 20 lleoliad ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, gan gyfuno’r cynhwysion perffaith mewn prydau blasus â’i hiwmor cynnes o Swydd Efrog.

Yn ei deithiau blaenorol mae James wedi adeiladu’r frechdan bacwn a chaws mwyaf a’r orau, perfformio ‘llawdriniaeth’ ar ddol Barbie i greu ‘Baked Alaska’, gwahodd aelodau i’r gynulleidfa i ddangos eu tatŵs a pherfformio gyda’i gitâr yn fyw.

Ar gyfer 2025, dylech ddisgwyl ryseitiau newydd a hyd yn oed mwy o straeon diddorol wrth i James roi argymhellion a sgiliau sydd eu hangen i greu profiad bwyta anhygoel, gydag ochr o gomedi, wrth iddo baratoi prydau bwyd blasus yn fyw ar y llwyfan.

Mae James wedi bod yn diddanu ac addysgu’r genedl ers tri degawd gyda’i sgiliau coginio arbenigol ar y sgrin a thrwy ei lyfrau coginio poblogaidd.

Daeth mwy na 65,000 o bobl i weld dwy daith ddiwethaf James er mwyn gweld ei sgiliau coginio arbenigol.

Gall gynulleidfaoedd ddisgwyl noson o adloniant, llawn ryseitiau blasus, comedi, ceir, straeon hiraethus a cherddoriaeth. Byddwch yn barod ar gyfer noson allan egnïol a fydd yn eich gwneud i chwerthin yn uchel, yn llawn blasau sy’n pryfocio ac yn codi awch i chi. 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event