Gwneud Pyped Marionèt gan Olivia Racionzer yn Fyw ar Zoom

Gweithdy byw dros Zoom - Dydd Sadwrn 10 Ebrill, 11am & Dydd Sul 11 Ebrill | 2pm

AM DDIM 

Addas i : Blant dros 6 oed gyda goruchwyliaeth a chymorth oedolyn!

Mae Olivia Racionzer yn Ddylunydd a Gwneuthurwr Pypedau, ac yn Bypedwraig ym maes Theatr a Ffilm. Mae hi wedi gweithio ar 2 Dymor o His Dark Materials yn yr Adran Effeithiau Creaduriaid ac mae wedi mynychu’r Curious School of Puppetry yn Llundain er mwyn datblygu ei sgiliau fel Pypedwraig. 

Mae’n gobeithio ysbrydoli pobl i weld yr hud mewn Pypedau a chredu ynddyn nhw. 

 

BYDD ARNOCH CHI ANGEN

  • 2 x tiwb papur toiled
  • 1 ochr o focs grawnfwyd
  • 2 x ffon loli iâ
  • 1 pêl o linyn
  • 2 x glanhawyr pibelli
  • Tâp masgio
  • Glud pritt stick
  • Pensil 
  • 1 taflen o bapur neu bapur newydd
  • 4 x gleiniau (oddeutu 10mm mewn diamedr)

 

YN YCHWANEGOL (ond ddim yn hanfodol)

  • Llygaid gwgli
  • Argraffydd (ar gyfer all-brint templed)
  • Pinnau ffelt neu baent i addurno

I gofrestru ar gyfer y cyfarfod Zoom e-bostiwch: youngcreatives@venuecymru.co.uk

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event