dinnerladies
-

dinnerladies

-
Ar werth: Dydd Iau 2 Gorffennaf, 12pm

Addasiad newydd sbon i’r llwyfan o dinnerladies, gyda seren y byd teledu a’r theatr, Les Dennis, fel Stan, rheolwr y cantîn a newyddion i ddilyn am weddill y cast.

Mwy na chwarter canrif ers darlledu’r gyfres ar BBC1, mae comedi bytholwyrdd Victoria Wood, dinnerladies, yn dod i’r llwyfan fel y darn cyntaf o waith Victoria i’w hystâd ei gynhyrchu.

Mewn stori wedi’i hysbrydoli gan y gyfres wreiddiol, bydd yr holl gymeriadau cyfarwydd ac annwyl o’r cantîn ym Manceinion yn dychwelyd.

Victoria Wood oedd awdur dinnerladies a bu’n ymddangos yn y rhaglen hefyd, a ddaeth yn un o hoff gomedïau Prydain gyda’r hiwmor ffraeth, cynhesrwydd a chymeriadau bendigedig.

Rŵan mae Stan, Bren, Tony, Dolly, Jean, Twinkle, Anita a gweddill criw’r cantîn yn dychwelyd i weini mwy fyth o hwyl, anhrefn a chomedi clasurol gan Victoria Wood.

P’un a ydych chi’n dychwelyd at hen ffefryn neu’n cael blas ar y sioe am y tro cyntaf, bydd dinnerladies yn noson llawn chwerthin gyda digon o emosiwn, hiraeth ac ambell i syrpreis.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event