Dear Zoo

Dear Zoo

Archebwch nawr

Mae Dear Zoo, y llyfr plant clasurol ac oesol, yn dychwelyd i’r llwyfan!

Dewch i weld ein cymeriadau’n ysgrifennu llythyr at y Sŵ. Tybed pa anifeiliaid gaiff eu hanfon? Mwnci direidus, llyffant sy’n sboncio ac wrth gwrs, ci bach perffaith.

Helpwch eich plant i ddysgu wrth i’r llyfr lamu ar y llwyfan a rhannwch brofiad hudolus wrth i’r stori ddatblygu gyda phypedau hoffus, cerddoriaeth swynol a llu o gyfleoedd i’r gynulleidfa ryngweithio.

Mae llyfr codi’r fflapiau hynod boblogaidd Rod Campbell wedi difyrru cenedlaethau o ddarllenwyr ifanc ers ei gyhoeddi gyntaf ym 1982. Ac wedi gwerthu dros 8 miliwn o gopïau ar hyd a lled y byd.

Bydd y cynhyrchiad hwn yn swyno pawb sydd wedi darllen y llyfr (yn hen ac yn ifanc) wrth i’r stori ddatblygu gyda phypedau hoffus, cerddoriaeth swynol a llu o gyfleoedd i’r gynulleidfa ryngweithio.

Ymunwch â ni yn eich theatr leol i weld pa anifeiliaid a anfonwyd gan y sŵ: yr anifail anwes perffaith - yn y diwedd!

#DearZooLive

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event