Dydd Sadwrn & Dydd Sul
Cymerwch Ran - Casualty
Arddangosfa Effeithiau Arbennig a Cholur Prosthetig a Holi ac Ateb
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cast ac unigolion creadigol o Casualty, drama feddygol sydd wedi ennill gwobrau BBC 1, ar gyfer Cymerwch Ran eleni.
Arddangosfa Effeithiau Arbennig a Cholur Prosthetig
- Dydd Sadwrn 13 Ionawr | 1pm - 2pm
- Dydd Sul 14 Ionawr | 1pm - 2pm
- Am ddim
- Cofrestru ar y diwrnod
- Oedran: I’w gadarnhau
- Ystafell Deganwy
Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r aelod o gast Casualty, Milo Clarke (Teddy Gowan), a’r Cyfarwyddwr Steve Hughes (dydd Sul yn unig)
- Dydd Sul 14 Ionawr | 11am - 12pm
- Sesiwn galw heibio
- Am ddim
- Oedran: I’w gadarnhau
- Ystafell Aled
Hefyd, dewch draw i’n harena i weld un o’r ambiwlansys sy’n cael ei ddefnyddio ar y set. Cyfle i weld ambiwlans Casualty a rhai o eitemau stynts a ddefnyddir ar y rhaglen (fersiynau meddal o wrthrychau trwm wedi’u gwneud o rwber a gwydr siwgr). Mi fydd yna hefyd fyrddau stori hen stynts ar ddangos.