Cor y Penrhyn & The Black Dyke Band

Cor y Penrhyn & The Black Dyke Band

Archebwch Nawr

Mae Band y Black Dyke yn cynrychioli cyflawniadau gorau oll o chwarae Band Pres.

‘Rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella ein cerddoriaeth a’n perfformiadau fel y gall cynulleidfaoedd ledled y byd fwynhau traddodiad godidog cerddoriaeth Band Pres. Er gwaethaf tre adaeth falch y gellir ei holrhain i oes Fictoria, rydym bob amser yn cadw llygad ar y dyfodol: annog chwaraewyr newydd, cerddoriaeth newydd a dehongliadau newydd o hen glasuron. Rydym yn cydnabod ac yn anrhydeddu ein gorffennol, ond rydym am barhau i fod yn ensemble cerddorol cyfoes sy'n ymroddedig i gyflwyno profiad cerddorol o'r ansawdd uchaf i'n gwrandawyr. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni i wireddu hyn am flynyddoedd lawer i ddod.

Mae gwreiddiau Côr y Penrhyn ym mhentref chwarelyddol Bethesda yn Nyffryn Ogwen sydd ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri tua 5 milltir i’r de ddwyrain o ddinas prifysgol Bangor. Heddiw mae’r côr yn dal i fynd o nerth i nerth o dan arweiniad eu Cyfarwyddwr Cerdd, Owain Arwel Davies. Yn ddiweddar bu’r côr yn perfformio yn Glastonbury, Blackpool a'r London Palladium gyda'r enwog "The Good the Bad and the Queen". Mae eu amserlen y dyddiau hyn yn cynnwys cyngherddau yn lleol yng Ngogledd Cymru ac ymhellach; yn 2025 bydd y côr yn teithio i Ottowa, Canada i Ŵyl Cymru Gogledd America.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event