Amser i Adlewyrchu ar y Gerddoriaeth a Greodd yr Atgofion
Mae’r unig gôr o Brydain i gael ei goroni yn Gôr y Byd, Côr Meibion Johns’ Boys yn dychwelyd yn 2026 gyda’u Taith i Ddathlu 10 Mlynedd, yn dilyn cyfres o gyngherddau lle gwerthwyd pob tocyn ar draws y DU a thaith lwyddiannus yng Nghanada.
Mae’r daith arbennig yn ddathliad ac yn gyfle i edrych yn ôl ar ddegawd o berfformiadau bythgofiadwy, cerddoriaeth sydd wedi cyffwrdd â chalonnau, ac adegau sydd wedi creu hanes.
Yn enwog am eu harmonïau gwefreiddiol a phresenoldeb cofiadwy ar y llwyfan, daeth y côr i enwogrwydd cenedlaethol ar ôl cyrraedd rownd derfynol Britain’s Got Talent ac ers hynny, maent wedi ymddangos ar raglenni The Royal Variety Show, The Last Night of the Proms, rhaglen Good Morning Television ac maent i’w clywed yn rheolaidd ar radio cenedlaethol.
Mae’r daith newydd sbon yma’n cynnig rhywbeth i bawb - o hud caneuon o sioeau cerdd i ffefrynnau calonogol o’r siartiau, i draddodiadol cyfoethog clasuron Cymreig megis Cwm Rhondda a Chalon Lân.
Mae noson gyda Johns’ Boys yn fwy na chyngerdd - mae’n siwrnai drwy gerddoriaeth atgofion ac undod. Peidiwch â methu’r cyfle i fod yn rhan o’u dathliad 10 Mlynedd a chlywed un o gorau mwyaf llwyddiannus y DU yn fyw.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: johnsboys.co.uk