Mae dau o leisiau clasurol gorau’r byd, Aled Jones a Russell Watson, yn dod ynghyd eto ar gyfer Nadolig 2022 gydag albwm newydd sbon a thaith enfawr. Wrth berfformio gyda’i gilydd eto ar ôl bwlch o dair blynedd, bydd y ddeuawd arbennig yn teithio o amgylch y DU ym mis Tachwedd a Rhagfyr.
Mae’r ddau artist hynod boblogaidd, Aled a Russell, wedi cael llwyddiannau ysgubol rhyngddynt, o wobrau clodwiw i record gwerthiant yn y siartiau.
Yn sioe Nadolig Aled a Russell, cewch glywed caneuon o’u halbwm newydd sbon, sy’n cynnwys recordiadau o ganeuon gorau’r Ŵyl. Yn eu plith bydd carolau traddodiadol fel ‘O Holy Night’, ‘O Little Town of Bethlehem’ ac ‘In The Bleak Midwinter’, ynghyd â ffefrynnau Nadoligaidd fel ‘White Christmas’, ‘It’s Beginning To Look At Lot Like Christmas’, ‘Little Drummer Boy’, a ‘Mistletoe and Wine’.