Cats

Cats

Archebwch nawr

Mae cynhyrchiad mawreddog newydd o sioe gerdd benigamp Andrew Lloyd Webber, CATS, yn mynd ar daith o amgylch y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Rhwng gorsaf Euston a Victoria Grove, mae cari-dyms a rafins Llundain yn ymgynnull dan y ‘Jellicle moon’ yn y gobaith o gael eu dethol uwchlaw pob un o’r lleill. Ac mae pob un yn gofyn, yn ddewr, pwy fydd hwnnw?

Yn seiliedig ar Old Possum’s Book of Practical Cats gan T.S. Eliot a gyda sgôr anfarwol a fu’n ysbrydoliaeth i un genhedlaeth ar ôl y llall, gan gynnwys Old Deuteronomy, Macavity: The Mystery Cat, Jellicle Ball a’r gân aeth i frig y siartiau, Memory, bydd y cynhyrchiad newydd sbon hwn o CATS, gyda Drew McOnie (Brigadoon, Jesus Christ Superstar) yn cyfarwyddo a choreograffu, yn dod yma ym mis Rhagfyr 2026 am wythnos yn unig. 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event