Wedi llwyddiant ysgubol eu cyngerdd diwethaf yn dathlu’r caneuon o’r pump o ffilmiau eiconig a wnaeth y Beatles, mae The Bootleg Beatles yn dychwelyd eleni gyda phum peth enwog arall mewn golwg.
Y tro hwn, mae’r holl sylw ar y pum record hir a werthodd fwyaf gan y Beatles - Rubber Soul, dan ddylanwad Dylan; synau arbrofol Revolver; Sgt Pepper yn codi’r llen ar yr Haf o Gariad a seicedelia; y White Album gyda’r gybolfa fendigedig o wahanol arddulliau ac yn goron ar y cyfan, cyfansoddiadau soffistigedig Abbey Road.
Mae pob record mor arloesol â’r un o’i blaen ac yn unigryw yn eu hamrywiaeth, a daw pob un ohonynt yn fyw ar y llwyfan mewn cyngerdd arbennig iawn gan The Bootleg Beatles a’u criw o gerddorion crefftus.
Noson na ddylai selogion y Beatles ei cholli ar unrhyw gyfrif.
“Less a tribute – more a reincarnation”. The Telegraph
"Mind-boggling accuracy." The Mail on Sunday
“The magic of perfect Illusion.” – Rolling Stone.