Tra bod dad yn teimlo fel ymlacio rhywfaint ar brynhawn Sul, mae gan Bluey a Bingo syniadau eraill! Ymunwch â nhw wrth iddynt ddefnyddio pob gêm a syniad sydd ganddynt i symud dad oddi ar y bag ffa.
Mae Bluey’s Big Play yn addasiad theatraidd newydd o’r gyfres deledu sydd wedi ennill gwobr Emmy®, gyda’r stori wreiddiol gan Joe Brumm, a greodd Bluey, a cherddoriaeth newydd gan gyfansoddwr Bluey, Joff Bush.
Ymunwch â’r Heelers yn eu sioe theatr gyntaf a wnaed ar eich cyfer chi, yn cynnwys pypedau anhygoel, dyma Bluey fel nas gwelwyd erioed o’r blaen, yn dod yn fyw yn y sioe gyntaf yn y DU.
Mae Bluey’s Big Play wedi’i gynhyrchu gan Andrew Kay a Cuffe & Taylor a Windmill Theatre Co ar gyfer BBC Studios