Eleni, mae Bellowhead yn dathlu 20 mlynedd ers cyhoeddi eu halbwm lawn gyntaf, Burlesque. Dangosodd y band gwerin 11 aelod fod band mawr yn sicr o greu argraff fawr hefyd gyda chyhoeddiad Burlesque sy’n cynnwys y caneuon London Town, Frog's Legs & Dragon's Teeth a Rigs of The Time i enwi dim ond rhai.
Gan arddangos eu cyfuniad unigryw o gerddoriaeth werin Seisnig draddodiadol a sain band mawr modern, fe aeth Bellowhead ymlaen i recordio 4 albwm arall (gan werthu dros chwarter miliwn o gopïau). Cawsant 2 ddisg arian ac fe wnaethant ennill 8 gwobr yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 cyn dod â’r band i ben yn 2016.
Ar ôl seibiant ac wedi’u hysgogi gan gynnydd anhygoel ym mhoblogrwydd eu cerddoriaeth yn ystod y pandemig, daeth y band yn ôl at ei gilydd ar gyfer taith lwyddiannus yn 2022 ac unwaith eto yn 2024 wrth iddynt ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu’r band. Llwyddodd y ddwy daith i ail-gadarnhau eu statws fel un o berfformwyr gwerin mwyaf a mwyaf poblogaidd y DU.