Mae Bad Boy Chiller Crew yn mynd ar daith ar hyd a lled y DU ac Iwerddon yn 2022.
Gyda digon o garisma a phresenoldeb llwyfan i gipio calonnau a meddyliau ieuenctid Prydain dros dymor gwyliau cerddorol yr haf, ac yn dal ar frig cyffro eu taith yn yr hydref, mae sêr newydd Bradford yn parhau i esgyn tua’r nen.
Ym mis Ionawr, fe fyddan nhw’n rhyddhau eu tâp cymysg diweddaraf, Disrespectful, sef casgliad syfrdanol sy'n cadw at addewid BBCC o fachau anthemig a phenillion chwim. Mae’r blas diweddaraf ar y prosiect – “Messages” yn dyst i’r honiadau hael hyn.
“There is no gulf between the group and their audience... This set was a celebration of youth and young mashhood”
NME for Reading Festival 2021