The Australian Pink Floyd

The Australian Pink Floyd

Book now

Gyda mwy na 35 mlynedd o hanes, mae'r sioe deyrnged Pink Floyd fwyaf a gorau yn y byd yn parhau i swyno ei ddilynwyr ym mhob cwr o'r byd.

Maent bellach wedi gwerthu mwy na 4 miliwn o docynnau ledled y byd ac wedi derbyn canmoliaeth uchel gan The Times a ddywedodd fod y grŵp hwn wedi cyrraedd y safon aur a The Daily Mirror a honnodd mai’r dynion hyn oedd brenhinoedd y genre, perfformiodd y band ei gyngerdd cyntaf yn Adelaide, Awstralia ym 1988.  Ers hynny maen nhw wedi perfformio mewn dros 35 o wledydd ar draws y byd; wedi chwarae yn nathliadau pen-blwydd David Gilmour yn 50 oed ac fe ymunodd David a Rick Wright â nhw ar y llwyfan.  TAPFS ydi’r sioe fwyaf a’r gorau o’i math yn y byd.

Gan berfformio cerddoriaeth Pink Floyd yn berffaith, mae’r sioe deyrnged yma, sydd wedi ennill clod aruthrol, wedi bod yn rhyfeddu cynulleidfaoedd ar draws y byd am fwy na thri degawd.  Wrth ymdrechu i ailgynhyrchu profiad Pink Floyd a chyflwyno'r gerddoriaeth i gynulleidfaoedd newydd, mae'r sioe’n parhau i gynnwys sioe oleuadau a laserau syfrdanol, animeiddiadau fideo, y dechnoleg sgrin LED manylder uwch ddiweddaraf ac effeithiau arbennig eraill. Yn ogystal, ac yn unol ag arfer Pink Floyd, mae yna sawl ategolion gwynt anferthol yn cynnwys mochyn mawr a changarŵ pinc unigryw eu hunain.

 

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event