Byddwch yn barod i gamu’n ôl mewn amser ac ail-fyw seiniau eiconig yr oes gerddorol orau erioed wrth i THE 80s SHOW fynd â chi ar daith llawn atgofion, yn dathlu’r caneuon bythgofiadwy sydd wedi diffinio cenhedlaeth, mewn cynhyrchiad cwbl drydanol!
O felodïau pop heintus Duran Duran, Spandau Ballet a Wham! i anthemau roc Bon Jovi a Tears for Fears, ac ambell un annisgwyl hefyd, bydd pawb sy’n dod i weld y sioe’n dawnsio ac yn canu wrth glywed eu ffefrynnau o’r 80au. Gyda rhestr arbennig o gerddorion, yn cynnwys offerynwyr taro a sacsoffon, mae THE 80s SHOW yn sicr o fod yn berfformiad llawn egni a fydd yn cyfleu gwir naws y cyfnod. Mae’r artistiaid dawnus yma wedi astudio’r recordiadau gwreiddiol yn fanwl a thrylwyr, gan sicrhau bod pob nodyn a phob sain yn cael ei ail-greu’n berffaith, er mwyn cynnig profiad byw bythgofiadwy.
I gyd-fynd â’r gerddoriaeth anhygoel, bydd fideo cwbl drawiadol ar y sgrin fawr a sioe oleuadau a laser yn rhan o THE 80s SHOW hefyd, i greu hyd yn oed mwy o awyrgylch a pherfformiad gwirioneddol fythgofiadwy i chi ymgolli ynddo. Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu wrth i’r llwyfan ddod yn fyw gyda ffrwydrad o liwiau llachar, yn cyd-fynd â’r gerddoriaeth, wedi’u cynllunio i fynd â chi’n ôl i oes aur yr 80au. P’run a ydych chi’n blentyn o’r 80au neu ond yn mwynhau cerddoriaeth oesol y cyfnod, mae THE 80s SHOW yn ddigwyddiad mae’n rhaid i chi ei weld sy’n argoeli’n noson fythgofiadwy o adloniant. Peidiwch â cholli eich cyfle i brofi hud bandiau mwyaf yr 80au, sy’n dod yn fyw gyda cherddorion anhygoel, profiad aml-gyfrwng syfrdanol a sioe oleuadau gwbl drawiadol. "Don't miss it!" meddai Frankie.