The 80's Show

The 80's Show

Archebwch Nawr

The 80s Show - Y deyrnged orau i’r degawd gorau, a pharti GORAU’r 80au ar y blaned ar eich cyfer chi!

Fel y gwyddom ni i gyd, roedd yr 80au yn ymwneud ag arloesedd a llawer o egni, a greodd rai o’r bandiau a’r arddulliau mwyaf cofiadwy erioed.

Roedd pob band yn ceisio bod yn wahanol a phrin yr oedd unrhyw un yn swnio’n debyg i’w gilydd gan greu caneuon y mae modd eu hadnabod o’r eiliadau cyntaf.

Mae The 80s Show yn cynnwys cymaint o’r cyfnodau hyn â phosibl ac mae wedi gwneud ei gorau i gynnwys yr holl synau a’r gerddoriaeth i fynd â chi ar daith o atgofion i’r dyddiau euraidd pan mai HWYL oedd yn bwysig.

Mae’n cynnwys y cerddorion a’r cantorion gorau, gyda’r sacsoffonydd ac offerynnwr taro benywaidd, ac mae’n anodd iawn gwahaniaethu rhwng y band a’r gwreiddiol!

Ar ben hyn oll mae sioe oleuadau/fideo/laser anhygoel! Bydd yn cynnwys y goreuon gan Frankie Goes To Hollywood, Duran Duran, Whitney Houston, Tears for Fears, Madonna, Spandau Ballet, Kim Wilde, Wham, Tiffany, Go West, Level 42, Belinda Carlisle, OMD, Erasure, Elton John, David Bowie a llawer mwy, ac ambell syrpreis hefyd.

"Don't miss it!" meddai Frankie.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event