Cymerwch Ran 2021
Yn digwydd yn ac o amgylch Llandudno yn ystod Ionawr 2021
Bydd Cymerwch Ran 2021 yn ŵyl gyffrous yn llawn celf, llenyddiaeth a gwyddoniaeth y gallwch CHI fod yn rhan ohoni - drwy greu gwaith celf i ni ei arddangos a mynd am dro i weld ein harddangosfeydd o gwmpas Llandudno.
Mae arnom ni eisiau i chi gyfrannu at osodiadau celf a fydd yn codi gwên ar wynebau pawb yn y dref ym mis Ionawr. Efallai bydd eich gwaith chi’n rhan o gampwaith taflunio, arddangosfa ffotograffiaeth neu daith stori.... a bydd mwy o bethau’n cael eu cyhoeddi’n fuan!
Yn ogystal â gweld eich gwaith yn Cymerwch Ran 2021, mi fydd yna hefyd wobrau i’r darnau gorau. Cadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol a thanysgrifiwch i sianel YouTube Venue Cymru i wneud yn siŵr nad ydych chi’n colli allan!