Yng nghwmni Richard Cadell, Richard Jones, John Archer, Solange Kardinaly ac Arkadio. Bydd X-treme Magic yn creu sioe’n llawn adrenalin di-ben-draw. Sioe drawiadol yn llawn tân, hud a champau peryglus.
Cafodd y sioe ei chreu yn Las Vegas a bydd yn dod draw i’r DU i ddiddanu cynulleidfaoedd dros y wlad. Dychmygwch wneud i feic modur ymddangos o unman, chwarae Russian Roulette gyda pholion dynameit neu geisio dianc o siaced gaeth wrth hongian o raff sydd ar dân…
Bydd sêr X-treme Magic yn gwneud hyn a llawer iawn mwy, gan edrych yn hynod o rywiol drwy’r cyfan.
Peidiwch â'i fethu.