Waitress
-

Waitress

-
Archebwch nawr

“Treat yourself to a slice of five-star musical pie” (The Times). Mae’r sioe gerdd gomedi WAITRESS yn dod i Landudno am 1 wythnos yn unig. 

Dewch i gwrdd â Jenna, gweinyddes a phobydd pastai talentog sy’n breuddwydio am damaid o hapusrwydd. Pan mae doctor newydd golygus yn dod i’r dref, mae bywyd yn cymhlethu. Gyda chefnogaeth ei ffrindiau a chydweithwyr, Becky a Dawn, mae Jenna yn goresgyn yr heriau sy’n ei hwynebu ac yn darganfod y gall chwerthin, cariad a chyfeillgarwch greu’r rysáit perffaith ar gyfer hapusrwydd.

Gyda thîm creadigol arloesol dan arweiniad menywod, mae’r sioe ‘warm, witty, wise and hilarious’ (EXPRESS) yn cynnwys ‘one of the best scores in years’ (THE STAGE) gan yr enillydd gwobr Grammy Sara Bareilles (Love Song, Brave) llyfr gan y sgriptiwr arobryn Jessie Nelson (I Am Sam) a chyfarwyddo gan yr enillydd gwobr Tony® Diane Paulus (Pippin, Finding Neverland).

Gyda’r gynulleidfa gyfan ar eu traed bob nos yn West End Llundain ac ar Broadway, Waitress yw’r ‘real deal’ (INDEPENDENT). Dyma sioe gerdd gomedi ‘made from the finest ingredients’ (TIME OUT).

Archebwch nawr a mynnwch docyn i’r ‘joyously life-affirming celebration of love and friendship’ (EXPRESS).  

 

Sylwch: Mae Waitress yn ymdrin â chynnwys gydag iaith gref, cam-drin domestig a themâu aeddfed, felly mae gofyn am ddisgresiwn rhieni os ydych yn dod â phlant sydd dan 13 oed i weld y sioe.  Gall y cynhyrchwyr wneud newidiadau i’r cast a gyhoeddwyd am unrhyw reswm, ar unrhyw adeg, ac felly ni ellir gwarantu y bydd unrhyw artist a enwyd yn ymddangos. 
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event