The Serial Killer Next Door

The Serial Killer Next Door

Archebwch nawr

Mae un o therapyddion seicolegol a sylwebwyr trosedd mwyaf nodedig y DU, Emma Kenny, yn trafod yr hyn sy’n creu llofrudd cyfresol.

Bydd Emma Kenny yn mynd â chi ar daith i ganfod yr hyn o bosib sy’n arwain i lofruddwyr fel Ted Bundy, John Wayne Gacy, Jeffrey Dahmer a John Paul Knowles gyflawni llofruddiaethau. Beth sy’n creu llofrudd cyfresol, ac a allai unrhyw beth fod wedi atal eu potensial rhag cael ei weithredu, neu ydynt yn llofruddwyr wrth reddf?

Mae Emma’n arbenigo mewn astudio dioddefwyr, ond mae’n fwyaf adnabyddus yn y cyfryngau am gyflwyno rhaglenni trosedd gan gynnwys Britain’s Darkest TaboosLady Killers, a The Killer in My Family. Mae Emma wedi cyflwyno mwy na 70 o raglenni Trosedd gan ddadansoddi rhai o’r troseddau mwyaf erchyll yma yn y DU a’r Unol Daleithiau, gan archwilio beth sy’n gwneud llofrudd, a pham gall rhai pobl gael eu geni i deuluoedd cyffredin, cael eu magu heb ofn na chamdriniaeth, ond dewis trywydd llofrudd.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event