Pan yr oedd Sarah Millican yn blentyn roedd arni ofn ei chysgod. Yn ddistaw yn yr ysgol, dim llawer o ffrindiau, dim bronnau tan yr oedd hi’n 16.
Rŵan? RŴAN, mae hi’n uchel ei chloch, mae ganddi ffrindiau da, bronnau ysblennydd, ac mae ei chysgod yn ei hofni hi.
Yn Late Bloomer, sioe stand-yp newydd sbon Sarah – mae hi’n archwilio sut y trawsnewidiodd un Sarah i’r Sarah arall.
Yn ogystal â digonedd o gynnwys am gedor a chiniawau. Dewch draw, cewch chwerthin ar ei phen hi, gyda hi ac ochr yn ochr â hi.