Out With The Buckleys

Out With The Buckleys

Archebwch nawr

Mae James a Clair Buckley wedi datblygu eu flog i sioe fyw ar gyfer eu taith gyntaf o amgylch y DU! Mae’r gŵr a gwraig poblogaidd wedi cyhoeddi eu taith, Out With The Buckleys, a fydd yn ymweld â 13 dinas ar draws y DU yn ystod Gwanwyn 2026. 

Yn dilyn llwyddiant eu sianel YouTube lwyddiannus, At Home With The Buckleys, sy’n llawn fideos o’u perthynas a’u bywyd bob dydd ers dros 4 blynedd i’w 275,000 o danysgrifwyr, byddant yn dechrau ar eu taith fyw gyntaf, ac yn cynnig yr holl elfennau y mae dilynwyr wrth eu boddau â nhw am y cwpwl, a llawer mwy!

Byddwch yn barod am noson fythgofiadwy o gellwair ffraeth enwog James a Clair, straeon hollol newydd a chwynion doniol am fywyd bob dydd, yn ogystal ag ambell i syrpreis, wrth iddynt baratoi i agor allan mewn ffordd hollol newydd i gynulleidfaoedd ar draws y wlad… 

Meddai James a Clair: “Mae’n bleser cyhoeddi ein taith gyntaf, Out With The Buckleys! Edrychwn ymlaen at gael cyfle i rannu ystafell gyda rhai o’r bobl wych sydd wedi cefnogi ein sianel dros y blynyddoedd, a gobeithiwn weld ambell i wyneb newydd yn y gynulleidfa hefyd.  Bydd yn noson wych o adloniant ac yn gyfle i ddod i’n hadnabod ni’n bersonol ac mewn ffordd hollol newydd - heb unrhyw olygu, heb unrhyw hidlo, a heb unrhyw gyfyngiadau!” 
 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event