Oes unrhyw un yn sylweddoli ar fywyd pan maent yn ei fyw…bob, bob munud?
Mae Grover’s Corners yn dref fach dawel, llawn o bobl gyffredin, yn byw eu bywydau bob dydd. Maent yn gweithio, chwerthin, canu, disgyn mewn cariad, magu eu plant a heneiddio.
Ond, o fewn yr enydau hynny, bywyd bob dydd, mae gwirionedd sy’n estyn allan i ni i gyd. A gofyniad angerddol i drysori pob munud, rŵan, pan rydym yn dal yn gallu.
Mae Our Town yn gampwaith gan y dramodydd o’r Unol Daleithiau, Thornton Wilder, ac mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn gweld y stori drwy lens Gymraeg, gan ddod â bywyd newydd a safbwynt perthnasol byw i gynulleidfaoedd cyfoes. Pan greodd Dylan Thomas ei fersiwn ei hun o fywyd pentref yn Under Milk Wood, dywedodd ei fod yn adnabod Wilder a’r ddrama hon. Mae’r cwlwm hwnnw yn gwneud Our Town yn ddewis da ar gyfer cynhyrchiad agoriadol Theatr Genedlaethol Cymru, gan arddangos talent gorau Cymru mewn drama lwyfan â pherthnasedd cyffredinol a diamser.
Dywedodd Michael Sheen:
“Mae Our Town yn ddrama sy’n sôn am fywyd, cariad a’r gymuned. Dyna beth sy’n bwysig i ni yng Nghymru; dyna beth sy’n bwysig i mi. Mae hon yn ddrama sy’n ein cymell i ddathlu bywyd bob dydd, ac i garu ein hanwyliaid. Fedra i ddim meddwl am ddrama well i groesau cynulleidfaoedd o gwmpas Cymru ac yn Llundain i Theatr Genedlaethol Cymru, ynghyd â’n partneriaid cynhyrchu ar y cyd The Rose Theatr.”