Byddwch yn barod i gael eich ysgubo oddi ar eich traed wrth fwynhau An Officer and a Gentleman the Musical sy’n seiliedig ar y ffilm enwog o’r 80au. Mae’n stori fytholwyrdd am gariad, dewrder ac achubiaeth a fydd yn eich llonni, eich synnu a’ch gadael yn awchu am fwy.
Wedi ei gosod i drac sain o glasuron yn cynnwys caneuon Madonna, Bon Jovi, Cyndi Lauper, Blondie, a llawer mwy, bydd grym cerddoriaeth yn mynd a chi trwy uchelfannau ac iselfannau eu stori serch hynod, gan gynnwys y gân sydd wedi ennill gwobrau (Love Lift Us) Up Where We Belong.
Mae An Officer and a Gentleman The Musical yn eich gwahodd i fyd ble mae breuddwydion a thynged yn plethu. Peidiwch â cholli eich cyfle i weld y stori ramant gyfareddol hon yn fyw ar y llwyfan.